Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC) yw llais annibynnol pobl yng Nghymru sy'n defnyddio gwasanaethau GIG. Rydym yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sy'n ymddwyn fel llygaid a chlustiau'r claf a'r cyhoedd. Ceir 7 CIC sy'n cwmpasu gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Rydym yn annog a chefnogi pobl i ddweud eu dweud wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau GIG. Rydym yn darparu cyswllt pwysig rhwng y rheini sy'n cynllunio a chyflenwi gwasanaethau GIG, y rheini sy'n eu harchwilio a'u rheoleiddio a'r rheini sy'n eu defnyddio. Mae'r CICau yng Nghymru yn siarad â phobl yn eu cymunedau am eu barn a'u profiadau am wasanaethau'r GIG ac ar y cyd yn ymateb i ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth.