Cymryd rhan! Cysylltwch â ni heddiw i ddysgu mwy.
Beth mae aelodau yn ei wneud?
- Ystyried materion iechyd o safbwynt y claf a’r cyhoedd
- Ymweld â gwasanaethau lleol a siarad â staff a chleifion
- Cynhyrchu adroddiadau i’r GIG
- Edrych ar gynigion lleol a chenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd a mynegi barn sy’n helpu i lunio ymateb y CIC
- Mynychu cyfarfodydd CIC yn rheolaidd
- Darllen a chynnig sylwadau ar ystod eang o ddogfennau
Pa rinweddau sy’n ddymunol mewn aelod o safbwynt CIC?
- Rydym yn ceisio denu pobl o bob cefndir – yr unig ofyniad hanfodol yw diddordeb go iawn mewn gwella gwasanaethau iechyd i’ch cymuned
- Diddordeb yn yr ardal leol, gan gynnwys dealltwriaeth o faterion lleol
- Y gallu i weithio gyda phobl mewn tîm
- Y gallu i wrando ar eraill a chyfnewid barn
Hoffech chi wybod mwy am ddod yn aelod o CIC? Os hoffech siarad â rhywun am ddod yn aelod neu os hoffech unrhyw wybodaeth cysylltwch â’r Prif Swyddog
Dewch yn Aelod CIC
Person ifanc sy'n gwirfoddoli
Ffurflen Cais - PDF / Word