Mae ymweld ag adeiladau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar ran y cyhoedd yn un o swyddogaethau craidd rhaglen ‘monitro ansawdd’ y Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) o safbwynt gwasanaethau iechyd lleol. Dim ond un dull i fonitro ansawdd gwasanaethau GIG yw’r ymweliadau, ond mae’n fodd o gael gwybodaeth hanfodol ar gyflwr a derbynioldeb y lleoliad ble darperir y gwasanaethau.
Gellir cyrchu pob Adroddiad Ymweliad yma
Diben ymweld yw sicrhau fod barn y cleifion ar agweddau a safon y gwasanaethau yn cael ei chlywed ac yn cael ei hystyried gan GIG. Mae hon yn rôl draddodiadol y mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned wedi ymgymryd â hi e ac maent wedi datblygu llawer iawn o wybodaeth ac arbenigedd am wasanaethau iechyd lleol drwy’r rhaglenni ymweld.
Er hynny, nid yw’r hyn a wna'r CIC’au erioed wedi cael ei bennu ac mae’r CIC’au wedi gallu sefydlu eu dulliau eu hunain o weithio yn ôl fframwaith eu dyletswyddau statudol. Un o swyddogaethau craidd y Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC’au) yw monitro gwasanaethau GIG lleol ar ran y cyhoedd er mwyn gwella’r gwasanaethau hyn er budd y defnyddwyr.
Mae monitro gwasanaeth yn weithgaredd y mae CIC Gogledd Cymru yn rhoi blaenoriaeth uchel iddo.
Mae gan bob CIC hawl cyfreithiol i gael mynediad ac i archwilio adeiladau’r GIG yn ei ardal ac eithrio llety preswyl i’r staff. Cafodd yr hawl yma ei ymestyn i gynnwys ysbytai preifat a sefydliadau meddygol eraill ble mae cleifion GIG yn derbyn gwasanaethau.
Mae hi’n bwysig fod ymweliadau monitro yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn a gwella’r gwasanaethau a ddarperir. Er mai rôl aelod y CIC yw rhoi barn y person lleyg/y claf am bethau mae hi’n hanfodol cynnal ymweliadau mewn ffordd broffesiynol.